Cleisio: sgîl-effaith bosibl rhoi gwaed
Er ein bod yn gobeithio na fydd unrhyw roddwr yn cael effeithiau gwael o roi gwaed, ar adegau gall cleisiau ymddangos ar y breichiau. Gall y clais edrych yn wael iawn a bydd rhai pobl yn poeni am hyn, yn enwedig os na fydd yn ymddangos tan y diwrnod canlynol. Gall y cleisiau edrych yn gas iawn, ond fel arfer byddant yn ddiniwed a byddant yn clirio gydag amser.
Beth ye cleisio?
Achosir cleisiau gan waedu o dan y croen. Bydd y gwaed fel arfer yn casglu yn yr ardal fel clais er y gall disgyrchiant achosi i’r clais ymddangos mewn man arall heblaw safle’r rhodd. Gydag amser bydd yr afliwiad glasddu yn troi’n wyrdd, yna’n felyn ac yn y pen draw bydd yn pylu ac yn diflannu. Gall hyn gymryd hyd at dair wythnos neu fwy os bydd y clais yn fawr ac wedi chwyddo.
Pam y gall hyn ddigwydd wrth roi gwaed?
Pan gaiff y nodwydd ei thynnu allan o’r fraich bydd y gwaedu’n parhau hyd nes bydd y twll bach yn y wythïen wedi cau. Y ffordd o atal hyn yw drwy roi pwysau ar y fraich, dros y man lle y gosodwyd y nodwydd, hyd nes y bydd pob arwydd o waedu wedi dod i ben. Methu â rhoi digon o bwysau yw’r prif reswm dros gleisio.
Yn ail, pan roddir y nodwydd rhoi gwaed yn y fraich, gellir niweidio’r wal gyferbyn â’r wythïen, gan greu twll bach y gall gwaed fynd drwyddo. Ni welir hyn bob tro wrth roi gwaed ond gall ddod i’r amlwg wedyn.
Yn drydydd, ceir pibellau gwaed bregus bach sy’n rhedeg ychydig o dan y croen, yn ogystal â’r gwythiennau mwy y tynnir y gwaed ohonynt. Pan osodir y nodwydd yn y fraich, gellir niweidio un o’r pibellau bach hyn gan achosi gwaedu. Mae’n amhosibl rhagweld hyn, gan na ellir gweld pibellau o’r fath fel arfer.
Yn olaf, efallai y byddwch hefyd yn fwy tebygol o gael clais os bydd yn anoddach nag arfer i chi roi gwaed neu os bydd yn anodd dod o hyd i’ch gwythiennau neu mewn achosion prin iawn os bydd y nodwydd yn niweidio rhydweli.
Beth y gellir ei wneud?
Y ffordd bwysicaf o atal clais yw drwy roi pwysau ar y man lle y gosodwyd y nodwydd, hyd nes y bydd y gwaedu’n dod i ben. Yna rhoddir rhwymiad ar y man hwnnw i’w gadw’n lân. Ni ddylid ei dynnu am isafswm o 2 awr.
Hefyd, os bydd clais yn ymddangos wrth i chi roi gwaed, efallai y byddwn yn rhoi’r gorau i dynnu gwaed er mwyn atal y clais rhag gwaethygu. Efallai y byddwn hefyd yn rhoi pwysau ar safle’r nodwydd gyda rhwymyn.
Beth y gallwch chi ei wneud?
Gall cleisio fod yn boenus a dylech osgoi codi pethau trwm oherwydd gallai hyn waethygu’r boen. Fodd bynnag, gall symud y fraich ychydig fod yn llesol gan fod cleisiau yn dueddol o wneud i’r fraich fynd yn anystwyth. Gall gosod rhywbeth oer ar y man lle y tynnwyd gwaed helpu i leddfu unrhyw boen neu anesmwythder. Mae cadach neu wlanen oer yn ddelfrydol. Os bydd angen rhywbeth ychwanegol arall arnoch i leddfu’r boen, argymhellwn eich bod yn cymryd Paracetamol (gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwyr). Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw un o’r symptomau canlynol, gofynnwch am help:
- Poen difrifol
- Poen sy’n mynd i fyny i ran uwch y fraich/ ysgwydd neu i lawr i’r llaw / bysedd
- Dim teimlad neu binnau bach yn y fraich, law neu’r bysedd
- Chwyddo ac/neu gochni ar y fraich